Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid 3 awr yn y nos 5.30-8.30pm - Dros Dro / Tymor Penodedig
Job Description
Amdanom ni
Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau yng Nghyngor Bro Morgannwg. Rydym yn cefnogi pobl ifanc 11-25 oed drwy gyfleoedd addysgol anffurfiol a rhai nad ydynt yn ffurfiol i'w cefnogi i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn darparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc fwynhau eu hunain a chwrdd ag eraill; i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; i gael gwybodaeth a chymorth; a dysgu sgiliau newydd.
Ein gwerthoedd yw:
Uchelgeisiol – Meddwl gyda golwg ar y dyfodol, gan groesawu ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored – Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau yr ydyn ni’n eu gwneud.
Gyda’n gilydd – Gweithio gyda’n gilydd fel tîm sy’n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a phartneriaid, sy’n parchu amrywiaeth ac sydd wedi ymrwymo i wasanaethau o safon.
Balch – Balch o Fro Morgannwg; balch i wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Cyflog: Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid Pwynt JNC 12 £30,774 y flwyddyn (pro-rata) £15.97 yr awr
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 3 awr yr wythnos, 40 wythnos yn gweithio 1 noson yr wythnos, ambell i benwythnos a phreswylfeydd dros nos.
Prif Weithle: Mae'r swyddfa yn y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri. Bydd angen teithio i ddarpariaethau ieuenctid ledled Bro Morgannwg, ond byddwch yn gallu rhannu cludiant, defnyddio ceir cronfa y Cyngor a/neu hawlio costau teithio.
Rheswm am gynnig Swydd Dros Dro: Wedi'i ariannu dros dro tan 31 Mawrth 2027.
Rydym yn chwilio am gydweithwyr i ymuno â'r gwasanaeth ieuenctid i ehangu ein gwasanaethau i bobl ifanc o fewn clybiau ieuenctid, addysg awyr agored a Gwobr Dug Caeredin.
Mae pob swydd sydd ar gael ar gyfer 1 noson yr wythnos am 3 awr, gan weithio yn ystod tymor ysgol ynghyd ag wythnos gyntaf gwyliau'r haf.
Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu llwybr gyrfa ystyrlon gyda'n rhaglen hyfforddi. Byddwch yn mwynhau manteision a buddion bod yn rhan o gymuned Cyngor Bro Morgannwg ac yn sicrhau eich dyfodol gyda'n cynllun pensiwn cynhwysfawr..
Rheolir y gwasanaeth hwn gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro ac mae wedi'i leoli yn yr adran Dysgu a Sgiliau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cyfleoedd DPP cynhwysfawr, datblygu sgiliau newydd yn y sector gwaith ieuenctid, yn rhan o dîm deinamig sy'n creu dylanwadau cadarnhaol o fewn y gymuned leol ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Bydd ymgeiswyr yn gymwys i ymuno â'r Cynllun Pensiwn Athrawon.
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
Profiad blaenorol o waith ieuenctid wyneb yn wyneb mewn amrywiaeth o leoliadau.
Bod yn gyfarwydd â’r offer a’r technegau a ddefnyddir i gasglu gwybodaeth ac adborth gan bobl ifanc.
Mae profiad o hwyluso sesiynau grŵp i arwain gweithgareddau a thrafodaethau grŵp yn hanfodol.
Gwybodaeth am offer gwerthuso i asesu effaith gweithgareddau ieuenctid.
Sgiliau i greu adnoddau neu ddeunyddiau sy'n cefnogi gweithgareddau a phrosiectau ieuenctid.
Dylai fod gan ymgeiswyr gymhwyster cydnabyddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, o leiaf Lefel 3.
Dylai’r ymgeisydd fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid neu Weithiwr Ieuenctid.
Trwydded yrru ddilys y DU
Mae'r cymwysterau a'r profiadau hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y gweithiwr ieuenctid yn barod i ymgysylltu â phobl ifanc yn effeithiol, gan fynd i'r afael ag ymddygiad heriol, a chyfrannu'n gadarnhaol at eu datblygiad a'u lles.
Os nad ydych yn siŵr a yw eich cymhwyster neu brofiad yn bodloni'r gofynion, cysylltwch â ni i drafod cyn cyflwyno eich cais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Angen gwiriad gan y GDG: Oedolion a Phlant Manwl gyda gwahardd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Kelly Hawkes [email protected] 07966847974
Mae’n ofyniad statudol bod ymgeiswyr ar gyfer y swyddi hyn wedi’u cofrestru fel Gweithiwr Ieuenctid Proffesiynol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn iddynt allu dechrau gweithio i’r Gwasanaeth Ieuenctid. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru, ar gael yn www.cga.cymru
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person ynghlwm am fwy o wybodaeth.
Job Reference: LS00546
A letter to the employer and who to send it to, sent with your resume. The first one is free; tailoring your resume to each job comes with the packs.
ApplyWave is not an employer or a recruitment agency. You apply to each employer directly — we find their contact and write your letter. Real employers never charge money for a job or a visa sponsorship.
UK Home Office register
More from Vale of Glamorgan Council
Visa Sponsorship Data
AI Resume Tailoring
Example
Tailor your resume for Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid 3 awr yn y nos 5.30-8.30pm - Dros Dro / Tymor Penodedig roles
- Scores your fit against the posting's own requirements
- Pulls the skills and keywords it names into your bullets
- Exports as PDF or Word, ready to submit
Reach hiring managers at Vale of Glamorgan Council
AI Cover Letters for Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid 3 awr yn y nos 5.30-8.30pm - Dros Dro / Tymor Penodedig
Generate tailored cover letters, recruiter emails, and LinkedIn messages matched to your resume.
- Tailored to your resume & job
- Cover letters, emails, LinkedIn messages
- Professional tone, your experience
